Cwestiwn 1 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?
|
Cytuno gyda’r isod.
1.
Yn
ein barn, nid yw’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
(CSCA) lleol yn cyfrannu’n ddigonol at y deilliannau
a’r targedau a nodir yn y Cynllun Strategol
cenedlaethol.
2.
Croesawn fodolaeth y Cynllun Strategol cenedlaethol a’r
CSCAiau lleol fel erfyn i fonitro, cynllunio a datblygu addysg
cyfrwng Cymraeg ar lefel leol a cenedlaethol ond teimlwn mai prin
fu’r cynnydd ers i’r Strategaeth ddod i
rym.
3.
Un
esiampl yn unig o hyn yw’r diffyg llefydd mewn ysgolion
cynradd cyfrwng Cymraeg mewn nifer o Awdurdodau Lleol yn bresennol
a’r ffaith yr eir i apêl. Pe byddai’r CSCAiau yn
wirioneddol effeithiol, ni fyddai unrhyw blentyn “heb
le” yn eu hysgol cyfrwng Cymraeg dewisol.
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu
ddigon, sut y gellir datrys hyn?
|
1.
Dylid cryfhau polisi iaith pob awdurdod lleol gan sicrhau, law
yn llaw, gyda’r Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP),
brosesau ystyrlon a chynhwysfawr er mwyn mesur ac, yn bwysicach, er
mwyn ateb y galw am addysg Gymraeg yn lleol a darparu gwybodaeth
gynhwysfawr ac effeithiol i rieni. Yn benodol, dylid edrych at
gyfundrefnau addysg Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn gweld arfer
gorau ym maes iaith ac addysg.
2.
Yn ein profiad, mae bodolaeth cylch meithrin (a chylch Ti a Fi
fel y cam cychwynnol tuag at addysg a gofal cyfrwng Cymraeg) yn
brawf neu dystiolaeth o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg mewn
cymuned.
3.
Ar frys, dylid edrych ar gyd-destun polisi addysgeg y Cyfnod
Sylfaen (a chanfyddiadau ymchwil diweddar WISERD) er mwyn
mabwysiadu trefn ble caiff pob plentyn yn ystod oedran y Cyfnod
Sylfaen ddilyn y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg gan felly hefyd
fynd i’r afael â chanfyddiadau ac argymhellion yr Athro
Donaldson (o safbwynt Canolfannau Rhagori).
4.
Byddai mabwysiadu trefn bell-gyrhaeddol yn gofyn am
fuddsoddiad dwys yn y gweithlu er mwyn sicrhau corff o staff cymwys
a phroffesiynol sy’n gallu gwireddu amcanion y Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg.
5.
Dylid sicrhau ystyriaeth lawn i’r anghenion hyfforddiant
a chefnogaeth sydd yn hanfodol i weithlu’r blynyddoedd cynnar
sy’n cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen i blant ifainc er mwyn
iddynt fedru gwireddu amcanion y cwricwlwm mewn lleoliadau nas
gynhelir.
6.
Dylai fforymau trafod CSCAiau gyfarfod yn rheolaidd i drafod
gwaith a chynnydd o fewn yr awdurdodau lleol gan sicrhau fod
partneriaid amlwg megis Mudiad Meithrin yn derbyn gwahoddiad i
fynychu.
|
Cwestiwn 2 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu
a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar
gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?
|
1.
Yn
anffodus, na. Pe bai hyn yn wir, ni fyddai unrhyw fylchau yn y
ddarpariaeth nac unrhyw blentyn “heb le” neu’n
gorfod teithio tu hwnt i bellteroedd derbyniol ar gludiant
cyhoeddus er mwyn cael manteisio ar addysg cyfrwng
Cymraeg.
2.
Nid
yw CSCAiau wedi galluogi hyblygrwydd ac ystwythder wrth gynllunio
ar gyfer cynnydd ac ni ellir dweud eu bod felly’n
“darparu ar gyfer unrhyw gynnydd”. Mae sawl esiampl
ddaearyddol e.e. diffyg ysgol gynradd Gymraeg yn y Trallwng, diffyg
ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhowys ayyb.
3.
Mae
Mudiad Meithrin yn casglu a darparu data cynhwysfawr at bwrpas y
CSCAiau er mwyn cynorthwyo’r ALL i gynllunio yn bwrpasol ac
ystyrlon wrth adnabod patrymau dilyniant o CM i addysg Gymraeg ac
felly mae’nn siomedig nad yw hynny’n
digwydd.
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau
newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys
hyn?
|
1.
Dylid cryfhau polisi iaith pob awdurdod lleol gan sicrhau, law
yn llaw, gyda’r Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP),
brosesau ystyrlon a chynhwysfawr er mwyn mesur ac, yn bwysicach, er
mwyn ateb y galw am addysg Gymraeg yn lleol a darparu gwybodaeth
gynhwysfawr ac ystyrlon i rieni. Yn benodol, dylid edrych at
gyfundrefnau addysg Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn gweld arfer
gorau ym maes iaith ac addysg.
2.
Yn ein profiad, mae bodolaeth cylch meithrin (a chylch Ti a Fi
fel y cam cychwynnol tuag at addysg a gofal cyfrwng Cymraeg) yn
brawf neu dystiolaeth o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg mewn
cymuned.
3.
Ar frys, dylid edrych ar gyd-destun polisi addysgeg y Cyfnod
Sylfaen (a chanfyddiadau ymchwil diweddar WISERD) er mwyn
mabwysiadu trefn ble caiff pob plentyn yn ystod oedran y Cyfnod
Sylfaen ddilyn y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg gan felly hefyd
fynd i’r afael â chanfyddiadau ac argymhellion yr Athro
Donaldson (o safbwynt Canolfannau Rhagori).
4.
Byddai mabwysiadu trefn bell-gyrhaeddol yn gofyn am
fuddsoddiad dwys yn y gweithlu er mwyn sicrhau corff o staff cymwys
a phroffesiynol sy’n gallu gwireddu amcanion y Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg. O ystyried arbenigedd Mudiad Meithrin yn y
maes, dylid manteisio ar hynny er mwyn hyfforddi mwy o weithwyr
sy’n gallu cyflawni’r weledigaeth.
5.
Dylid sicrhau ystyriaeth lawn i’r anghenion hyfforddiant
a chefnogaeth sydd yn hanfodol i weithlu’r blynyddoedd cynnar
(sydd hefyd yn ddarparwyr addysg 3 oed) er mwyn iddynt fedru
gwireddu amcanion y Cyfnod Sylfaen mewn lleoliadau nas
gynhelir.
6.
Dylai fforymau trafod CSCAiau gyfarfod yn rheolaidd i drafod
gwaith a chynnydd o fewn yr awdurdodau lleol.
|
Cwestiwn 3 - Beth
yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro;
adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â
gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl
awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?
|
Mae’r trefniadau’n gynhwysfawr. Nid diffyg monitro
nac adolygu na chyflwyno data, adroddiadau ayyb yw’r
broblem. Y broblem yw diffyg gweithredu pell-gyrhaeddol a
phendant ar sail y galw amlwg a chynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg
mewn nifer o ardaloedd gan Awdurdodau Lleol
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y
gellir eu datrys?
|
Wele uchod.
|
Cwestiwn 4 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg
Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol
eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr
Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw;
Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?
|
1.
Nac
ydynt. Cyfeirir at sawl maes perthnasol uchod. Mae polisi cludiant
yn un dylanwad amlwg (gyda chynsail arwyddocaol yn achos ysgol
ffydd yr Esgob Vaughan, Abertawe yn ddiweddar).
2.
Mae
Dechrau’n Deg yn gynllun clodwiw a rhagorol o safbwynt
y blynyddoedd cynnar ond nid yw’r ddarpariaeth yn ddigonol
o’i gymharu gyda niferoedd y plant sydd mewn addysg Gymraeg
erbyn iddynt gyrraedd blwyddyn 2 yn yr ysgol gynradd. Awgryma hyn
felly fod y broblem yn un deublyg ac y byddai cynyddu niferoedd y
llefydd a’r darparwyr Dechrau’n Deg -cyfrwng Cymraeg
hefyd yn gyfrwng i gyfrannu’n gadarnhaol
at niferoedd mewn addysg Gymraeg. Mae’n bwysig
sefydlu’r norm ar ddechrau taith “addysgiadol” y
plentyn pan yn 2 neu’n 3 mlwydd oed.
3.
Nid
yw polisi iaith addysg yn gyffredinol yn cyd-fynd efo amcanion a
thargedau Llywodraeth Cymru yn Iaith Fyw: Iaith Byw i
gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg. Yn ddi-os, addysg Gymraeg h.y.
y broses o drosglwyddo’r Gymraeg i blentyn o gartref ble na
siaredir y Gymraeg, yw’r allwedd i greu siaradwyr Cymraeg ac
i gyrraedd targedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yn y cyd-destun
hwn. Er mwyn cyrraedd targedau o’r fath, bydd angen gweld
datblygiadau pell-gyrhaeddol, radical yn hytrach na’r
chynnydd araf a thameidiog a welir yn bresennol. Un cam i’r
cyfeiriad iawn fyddai i gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg i bob plentyn. Er mwyn
gwireddu hyn, byddai rhaid wrth gynllunio a buddsoddi dwys yn y
gweithlu.
4.
O safbwynt gofal plant a’r ADGP,
awgrymwn fod y modd y cesglir gwybodaeth am ddyheadau
rhieni o safbwynt sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes gofal
plant yn ddiffygiol. Heb ddiffinio deilliannau ieithyddol ar
gyfer ‘cyfrwng Cymraeg’ a ‘dwyieithog’, nid
oes modd sicrhau nad ydy’r sawl sydd yn ymateb i’r
asesiad wedi drysu dymuniad i’r plentyn i fod yn ddwyieithog
(a medru defnyddio’r ddwy iaith fel canlyniad naturiol gofal
cyfrwng Cymraeg) gyda defnydd y ddwy iaith yn y lleoliad gofal
(fyddai’n mynd yn groes i egwyddorion y dull trochi). Yng
nghyswllt yr ADGP, mae’n hollbwysig sicrhau cysondeb a
chroesgyfeirio ar draws prosesau cynllunio perthnasol (megis y
CSCA) a bod yr un drefn yn cael ei ddefnyddio ym mhob ALL. Dylid
sicrhau fod y broses asesu’n cael ei harfarnu gan arbenigwyr
polisi ac iaith allanol h.y. er mwyn sicrhau fod y prosesau asesu
mor gynhwysfawr ag sydd bosibl. Dylid hefyd sicrhau fod y broses
asesu’n canolbwyntio ar ddeilliannau pendant o safbwynt
egwyddorion dogfennau strategol megis ‘Iaith Byw: Iaith
Fyw’ sy’n gosod y Gymraeg fel maes polisi
llorweddol ar draws pob maes polisi arall (ac nid fel maes polisi
i’w gosod mewn bocs ar wahân). Yn hyn o beth, pryderwn
fod amwysedd am ddiffiniadau yn ymwneud ag addysg Gymraeg ac addysg
ddwyieithog yn gallu arwain rhai, yn eu hanwybodaeth, at feddwl fod
gofal ac addysg ddwyieithog yn creu siaradwyr Cymraeg (ble
mae’n wybyddus nad yw hynny’n wir).
5.
O safbwynt addysg ôl-14, teimlwn nad oes yna
ddigon o ystyriaeth yn cael ei roi i effaith polisïau addysg
sydd yn canoli / ffederaleiddio’r ddarpariaeth ar gyfrwng
iaith yr addysg sydd yn cael ei gynnig i’r
disgyblion.
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y
gellir eu datrys?
|
Wele
uchod
|
Cwestiwn 5 - Yn
eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan
gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o
gartrefi incwm isel?
|
1.
Mae
hyn yn amrywio o ardal i ardal yn ddibynnol ar statws addysg
Gymraeg o fewn yr awdurdod lleol ac ar y polisi iaith. Nid
yw’r CSCA yn sicrhau canlyniadau teg i blant cynradd mewn
ardal os nad oes addysg cyfrwng Cymraeg uwchradd ar gael. Nid
yw’r CSCA yn sicrhau canlyniadau teg i blant cynradd os nad
oes ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar gael yn lleol (ond fod y
plentyn, er enghraifft, wedi mynychu cylch Ti a Fi neu gylch
meithrin) neu bod yr ysgol yn llawn
2. Er mai cynllun gofal plant yw Dechrau’n Deg,
mae’r diffyg yn y cyfraddau rhwng niferoedd y plant mewn
cynlluniau cyfrwng Cymraeg (h.y. Dechrau’n Deg nid Flying
Start) a niferoedd y plant mewn addysg Gymraeg ym mlwyddyn 2 yn
yr ysgol gynradd, yn awgrymu ôl-gynllunio annigonol a all
effeithio’n niweidiol ar nifer y plant sy’n mynychu
ysgolion cyfrwng Cymraeg h.y. fe allasai’r niferoedd fod yn
uwch pe byddai mwy o lefydd / darpariaethau Dechrau’n Deg ar
gael. Gan mai cynllun wedi ei anelu at blant o gartrefi incwm isel
o fewn ardaloedd côd post penodol yw Dechrau’n Deg, mae
hyn yn awgrymu diffyg dealltwriaeth rhwng un cynllun allweddol i
drechu tlodi (a chynllun holl-bwysig) a’r CSCA.
|
Os ydych o’r farn nad yw
canlyniadau’r Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y
gellir datrys hyn?
|
Fel yr uchod:
1.
Dylid cryfhau polisi iaith pob awdurdod lleol gan sicrhau, law
yn llaw, gyda’r Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP),
brosesau ystyrlon a chynhwysfawr er mwyn mesur ac, yn bwysicach, er
mwyn ateb y galw am addysg Gymraeg yn lleol a bod hynny’n
cael ei wneud mewn modd cyson ar draws Cymru. Yn benodol, dylid
edrych at gyfundrefnau addysg Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn
gweld arfer gorau ym maes iaith ac addysg.
2.
Yn ein profiad, mae bodolaeth cylch meithrin (a chylch Ti a Fi
fel y cam cychwynnol tuag at addysg a gofal cyfrwng Cymraeg) yn
brawf neu dystiolaeth o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg mewn
cymuned.
3.
Ar frys, dylid edrych ar gyd-destun polisi addysgeg y Cyfnod
Sylfaen (a chanfyddiadau ymchwil diweddar WISERD) er mwyn
mabwysiadu trefn ble caiff pob plentyn yn ystod oedran y Cyfnod
Sylfaen ddilyn y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg gan felly hefyd
fynd i’r afael â chanfyddiadau ac argymhellion yr Athro
Donaldson (o safbwynt Canolfannau Rhagori).
4.
Byddai mabwysiadu trefn bell-gyrhaeddol yn gofyn am
fuddsoddiad dwys yn y gweithlu er mwyn sicrhau corff o staff cymwys
a phroffesiynol sy’n gallu gwireddu amcanion y Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg.
5.
Dylai fforymau trafod CSCAiau gyfarfod yn rheolaidd i drafod
gwaith a chynnydd o fewn yr awdurdodau lleol.
6.
Dylid sicrhau cyd-weithio chlir a phendant gyda nifer o
asiantaethau eraill (yn y sector cyhoeddus ac yn y sector
gwirfoddol) i sicrhau digon o weithlu i gefnogi disgyblion sydd ag
ADY drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws bob cam o’u taith
addysg.
|
Cwestiwn 6 - Os
byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r
holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad
hwnnw?
|
Dechrau cynllunio at gyfundrefn ble caiff y Cyfnod
Sylfaen ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.
|
Cwestiwn 7 - A
oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi
na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?
|
1.
Ystyriwn fod nifer o agweddau ar y broses gyfredol o
Asesu Digonolrwydd Gofal Plant sy’n berthnasol i’r maes
am nad ellir yn hawdd ysgaru gofal ac addysg yn yr ystod oedran
blynyddoedd cynnar.
2.
Yng nghyd-destun yr ADGP, cyfeirir at addysg cyfrwng
Cymraeg ac addysg ddwyieithog heb unrhyw ymdrech i
ddiffinio’r deilliannau ieithyddol wrth ddilyn y naill
drywydd neu’r llall. Heb nodi diffiniadau clir o
‘cyfrwng Cymraeg’ a ‘Dwyieithog’, y mae
hi’n amhosib sicrhau cysondeb yn y ffordd y mae’r
rhieni yn ymateb i gwestiynau sy’n ymwneud â chyfrwng
iaith y gofal ac addysg maent yn ei eisiau. Yn yr un modd,
awgrymwn nad ydi hi’n bosib blaengynllunio i sicrhau nifer
digonol o lefydd gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg heb godi
ymwybyddiaeth rhieni o ddeilliannau ieithyddol tebygol eu plant, a
heb hyrwyddo’r diffiniadau safonol sydd wedi’u cynnwys
yn y Canllawiau i Awdurdodau Lleol.
3.
Credwn fod angen rhoi ystyriaeth lawn i dargedau
lleol a chenedlaethol y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
wrth flaen gynllunio cyfrwng iaith darpariaethau gofal plant o fewn
awdurdodau lleol. Mae hyn yn hollbwysig gan fod dewisiadau
cyfrwng iaith gofal plant yn debygol o ragymadroddi dewis iaith
cyfrwng addysg yn y blynyddoedd olynol.
4.
Wrth drafod diffiniadau ysgolion, dylid sicrhau bod
amserlen penodol yn cael ei osod ar gyfer ysgolion sy’n cael
eu nodi’n ‘Ysgol Trawsnewidiol’ gan yr Awdurdod
Addysg er mwyn gosod targed clir ar gyfer cyflawni’r newid
hwn.
5.
Dylid hefyd sicrhau fod y broses asesu’n
canolbwyntio ar ddeilliannau pendant o safbwynt egwyddorion
dogfennau strategol megis ‘Iaith Byw: Iaith Fyw’
sy’n gosod y Gymraeg fel maes polisi llorweddol ar draws pob
maes polisi arall (ac nid fel maes polisi i’w gosod mewn bocs
ar wahân). Yn hyn o beth, pryderwn fod amwysedd am
ddiffiniadau yn ymwneud ag addysg Gymraeg ac addysg ddwyieithog yn
gallu arwain rhai, yn eu hanwybodaeth, at feddwl fod gofal ac
addysg ddwyieithog yn creu siaradwyr Cymraeg (ble mae’n
wybyddus nad yw hynny’n wir).
6.
Dylid annog ALLau i gydweithio’n agos gyda
Mudiad Meithrin er mwyn sicrhau dilyniant amlwg o’r cylch i
addysg Gymraeg, blaengynllunio ac adnabod patrymau.
|